OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol a Dinas Casnewydd) 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae’r Gorchymyn hwn yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol a Dinas Casnewydd i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi’r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.
Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol oddi wrth y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar http://senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=14828.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol a Dinas Casnewydd) 2019
Gwnaed 5 Mehefin 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mehefin 2019
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2019
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru([1]) drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004([2]).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol a Dinas Casnewydd wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o ardal y Cyngor hwnnw.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Gwent yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol a Dinas Casnewydd) 2019 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2019.
Dynodi ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac ardal gorfodi arbennig
2. Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
5 Mehefin 2019
YR ATODLEN Erthygl 2
Yr ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Ardal Bwrdeistref Sirol a Dinas Casnewydd (“y Fwrdeistref Sirol a’r Ddinas”) ac eithrio—
(a) y darn o Draffordd yr M4 o fewn y Fwrdeistref Sirol a’r Ddinas, o’r ffin â Dinas a Sir Caerdydd hyd at y ffin â Sir Fynwy, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael;
(b) y darn o Draffordd yr A48 o fewn y Fwrdeistref Sirol a’r Ddinas, o’r ffin â Dinas a Sir Caerdydd hyd at y gyffordd â Thraffordd yr M4;
(c) y darn o Gefnffordd yr A449 o fewn y Fwrdeistref Sirol a’r Ddinas, o’r gyffordd â Thraffordd yr M4 hyd at y ffin â Sir Fynwy; a
(d) y darn o Gefnffordd yr A4042 o fewn y Fwrdeistref Sirol a’r Ddinas, o’r gyffordd â Thraffordd yr M4 hyd at y ffin â Bwrdeistref Sirol Torfaen.
([1]) Yn rhinwedd adran 92 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, at ddibenion Rhan 6 o’r Ddeddf honno. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.